Sut allaf i fod yn rhan o DAWN?
Cyfarfodydd Cenedlaethol
Mae DAWN yn cynnal cyfres o ysgolion Sadwrn bedair gwaith y flwyddyn, fel arfer yn Aberystwyth. Yn ystod y diwrnodiau hyn cynhelir darlithoedd, seminarau a gweithdai ymarferol i’n cynorthwyo wrth baratoi pregethau/astudiaethau ac arwain gwaith Cristnogol.
Cyfarfodydd Rhanbarthol
Yn ogystal â’r Ysgolion Sadwrn cenedlaethol bydd dau grŵp rhanbarthol (De a Gogledd) yn cyfarfod bob deufis gan roi cyfle i ni weddïo, rhannu profiadau a thrafod er mwyn adeiladu’n gilydd i wasanaethu o fewn Eglwys Crist.
Profi’r Alwad
Mae DAWN hefyd yn cynnig hyfforddiant dwys sy’n rhoi cyfle i unigolion brofi os yw Duw yn eu galw i weinidogaethu yn ei Eglwys yn y dyfodol.
Gwneir hyn trwy gyfrwng darlithoedd rheolaidd, cyfnodau ar leoliad mewn eglwysi gwahanol, mentora personol a chyfleoedd i arwain mewn amrywiol weinidogaethau Cristnogol.
Dros y blynyddoedd mae nifer o fyfyrwyr wedi cael budd o’r cwrs hwn gyda rhai ohonynt bellach mewn gweinidogaeth lawn amser ar draws Cymru.
Ydi Duw efallai yn dy alw di i’w wasanaethu yn y Gymru Gymraeg?
Beth am ymuno â ni mewn gweddi?
“A phan welodd ef y tyrfaoedd, tosturiodd wrthynt am eu bod yn flinderus a diymadferth fel defaid heb fugail.
Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae’r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin;
deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.”
Mathew 9:36-38
Ein gweddi yw y bydd ein Harglwydd yn achub, yn meithrin, ac yn anfon gweithwyr i’w gynhaeaf, yn ein cenhedlaeth ni ac i’r dyfodol, er mwyn Ei enw.
Am wybodaeth bellach cysylltwch isod…