Croeso i wefan DAWN Cymru!
Beth yw DAWN?
Bwriad cynllun hyfforddiant DAWN Cymru yw darparu hyfforddiant Cristnogol ar gyfer arweinwyr y presennol a’r dyfodol. Rydym am hyfforddi arweinwyr a henuriaid, pregethwyr a bugeiliaid, diaconiaid ac athrawon ysgol Sul, arweinyddion mawl ac efengylwyr ar gyfer eglwysi sy’n bodoli’n barod ac eglwysi newydd sydd eto i’w plannu.
Trwy hyn, gobeithiwn gadarnhau a chryfhau eglwysi sydd wrth eu gwaith yn barod, yn ogystal ag annog pobl i blannu eglwysi newydd ymhlith y Cymry Cymraeg.
Gobaith DAWN Cymru yw darparu dysgeidiaeth Feiblaidd, hyfforddiant diwinyddol, cymdeithas ac anogaeth i Gristnogion Cymraeg sydd am ddyfnhau eu ffydd yn Iesu Grist. Hyfforddiant ydyw i’r rhai sy’n ystyried rôl arweiniol yn y dyfodol, neu sy’n arwain mewn eglwys yn barod.
A dyma’i roddion: rhai i fod yn apostolion, rhai yn broffwydi, rhai yn efengylwyr, rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i gymhwyso’r saint i waith gweinidogaeth, i adeiladu corff Crist.
Effesiaid 4:11-12
Sut allaf i fod yn rhan o DAWN?
Cysylltwch am fwy o wybodaeth